Ewch i wybodaeth am y cynnyrch
1 o 16

Papur Wal Map Hanesyddol Unigryw

Papur Wal Map Hanesyddol Unigryw

Dewisiwch unrhyw leoliad | Murlun Wal Wedi'i Wneud i Fesur

Lle sy’n golygu’r byd i chi. Ar eich wal.

Trowch le sy’n arbennig i chi yn ganolbwynt unigryw i’ch cartref.

Rhagor o fanylion

Mae pob papur wal yn cael ei greu’n unigol gan ddefnyddio map hanesyddol o’r lleoliad o’ch dewis, wedi’i addasu’n ofalus i greu murlun mawr. Mae pob dyluniad yn cael ei wneud yn ôl yr archeb i weddu i’ch gofod, gan ddod â rhywbeth unigryw a phersonol i’ch cartref. Boed mewn ystafell fyw, cyntedd, swyddfa gartref, ystafell wely neu ofod masnachol, bydd y lle sy’n bwysig i chi yn dod yn ganolbwynt sy’n llawn ystyr a hanes.

Dewiswch unrhyw leoliad, mawr neu fach, a byddwn yn gweithio gyda chi i greu’r map. Cewch weld a chymeradwyo drafft cyn i ni argraffu unrhyw beth. Gallwch ofyn am newidiadau, neu am fap cwbl wahanol os nad yw’r arddull yn gweddu i’r hyn sydd gennych mewn golwg.

Manylebau

  • Wedi’i gynllunio i fesuriadau eich wal
  • Map hanesyddol pwrpasol o’r lleoliad o’ch dewis
  • Drafft i’w gymeradwyo cyn argraffu
  • Ar gael mewn Du a Gwyn, Vintage, Glasbrint, neu unrhyw liw neu arddull o’ch dewis
  • Papur wal 120 gsm â gorffeniad llyfn, mat, i’w osod drwy roi’r past ar y wal
  • Wedi’i gyflenwi mewn paneli wedi’u rhifo i’w gwneud yn hawdd i’w osod

Postio a Dychwelyd

  • Yn cael ei anfon o fewn 2-3 diwrnod busnes ar ôl cadarnhau'r gwaith celf
  • Dosbarthiad am ddim i'r DU
  • Prisir archebion rhyngwladol wrth y ddesg dalu
  • Gall archebion a ddanfonir y tu allan i'r Deyrnas Unedig godi tâl tollau mewnforio, trethi, taliadau tollau neu ffioedd trin a osodir gan y wlad gyrchfan
  • Gan fod y cynnyrch hwn wedi'i bersonoli a'i wneud i archeb, ni allwn dderbyn dychweliadau, cyfnewidiadau na chansladau ar ôl i'r gwaith gynhyrchu ddechrau. Gweler ein Polisi Ad-dalu am ragor o wybodaeth
Gweld manylion llawn
  • A vintage black-and-white map of London showing streets, buildings, and place names such as Temple, St. Paul's Station, and LONDON.

    Du a gwyn

    Dehongliad glân, tawel sy'n ategu tu mewn cyfoes a thraddodiadol.

  • A vintage-style map print showing detailed street layout, buildings, and labeled areas including London and St. Paul's Station.

    Vintage

    Arlliwiau meddal a chynnes sy’n efelychu han bapur, gan amlygu cymeriad a hanes y map gwreiddiol.

  • A vintage-style map print of London showing street names, landmarks, and waterways in dark navy blue.

    Glasbrint

    Dehongliad pensaernïol beiddgar sy'n trawsnewid cartograffeg hanesyddol yn ddatganiad modern trawiadol.

1 o 3

Sut mae'n gweithio?

Custom map wallpaper in home office

Mesur eich wal a gosod eich archeb

Mesurwch led ac uchder llawn eich wal, yna ychwanegwch gyfanswm o 10 cm at y lled a’r uchder — 5 cm ar bob ochr — i adael digon i’w docio wrth osod.

Rhowch y mesuriadau hyn, dewiswch eich arddull a nodwch y lleoliad yr hoffech ei weld ar y map. Boed yn gartref teuluol, yn hoff bentref, yn lleoliad priodas neu’n rhywle sy’n llawn atgofion, byddwn yn dechrau chwilio am y map hanesyddol gorau ar gyfer eich wal.

A modern bedroom featuring a large black and white city map wall mural behind a neatly made bed with white bedding and a dark gray throw blanket.

Cymeradwyo’r dyluniad

Byddwn yn ymchwilio’n ofalus i’r lleoliad o’ch dewis ac yn creu map drafft yn seiliedig ar eich cais. Yna, byddwn yn anfon copi digidol atoch i’w weld a’i gymeradwyo. Dyma’ch cyfle i ofyn am newidiadau, megis addasu’r ardal ar y map, rhoi cynnig ar fersiwn o gyfnod gwahanol neu newid y gosodiad. Byddwn yn gweithio gyda chi nes eich bod yn gwbl hapus â’r dyluniad, cyn argraffu unrhyw beth.

Blueprint style historic map wallpaper of Preston in a cafe

{"type":"root","children":[{"type":"text","value":"Wedi'i Argraffu i Ffitio'ch Wal"}]}

Ar ôl i chi gymeradwyo’r dyluniad, bydd eich papur wal yn cael ei argraffu yn ôl yr archeb ar ddeunydd o ansawdd uchel, gyda lliwiau a manylion eithriadol. Bydd yn cael ei gynhyrchu i’r mesuriadau a ddarparwyd gennych, ei becynnu’n ofalus a’i anfon gyda gwasanaeth danfon y gellir ei olrhain.

A large vintage-style map wall mural covering the wall behind a cream chaise lounge in a styled bedroom. The room includes a floor lamp, side table with flowers, pillows, and an open book.

Papur wal o ansawdd uchel

Mae pob murlun yn cael ei argraffu ar bapur wal o ansawdd uchel, wedi’i ddewis am ei ansawdd argraffu, ei wydnwch a pha mor hawdd yw ei osod drwy roi’r past ar y wal.

  • Lliwiau cyfoethog a bywiog
  • Gorffeniad llyfn, mat
  • Deunydd cryf sy’n gwrthsefyll rhwygo
  • Wedi’i gyflenwi mewn paneli 62 cm o led, wedi’u rhifo
  • Yn addas ar gyfer cartrefi a mannau busnes

Cwestiynau Cyffredin

Custom old map wallpaper of London

Sut ydw i'n mesur fy wal?

Mesurwch led a uchder llawn y wal yr hoffech ei gorchuddio. Rydym yn argymell mesur mewn sawl man, gan mai anaml y mae waliau’n berffaith syth.

Wrth archebu, ychwanegwch gyfanswm o 10 cm at y lled a'r uchder (5 cm ar bob ochr) er mwyn caniatáu ar gyfer tocio wrth osod ac i sicrhau bod y gorchudd yn gyflawn.

Alla i ddewis unrhyw leoliad?

Cewch. Gallwn greu mapiau pwrpasol ar gyfer unrhyw leoliad ym Mhrydain ac Iwerddon, o eiddo unigol a phentrefi bychain i drefi, dinasoedd, arfordiroedd a thirweddau.

Ar gyfer lleoliadau eraill yn y byd, byddwn bob amser yn gwneud ein gorau glas i ddod o hyd i fapio hanesyddol addas. Fodd bynnag, efallai na fydd mapiau ar gael ar gyfer rhai mannau bach iawn neu bellennig.

Ga i weld y dyluniad cyn iddo gael ei argraffu?

Wrth gwrs. Mae pob archeb papur wal unigryw yn cynnwys prawf digidol i chi ei gymeradwyo. Ni argreffir dim nes eich bod yn fodlon â'r dyluniad terfynol.

A allaf ofyn am newidiadau?

Wrth gwrs. Gallwch ofyn i ni addasu ardal y map, gweld fersiwn hanesyddol gwahanol neu fireinio'r cyfansoddiad. Byddwn yn gweithio gyda chi nes eich bod yn hapus.

Pa mor hen yw'r mapiau?

Mae ein mapiau wedi'u creu o fapiau hanesyddol dilys sy'n dyddio'n ôl o leiaf 50 mlynedd. Yn dibynnu ar eich lleoliad dewisol, rydym yn dewis yr argraffiad yn ofalus sy'n cynnig y cydbwysedd gorau o gymeriad hanesyddol, manylder a chlirder, gan sicrhau bod pob papur wal yn adlewyrchu eiliad unigryw mewn amser.

A fydd y papur wal yn ffitio fy wal i?

Bydd. Cynhyrchir pob papur wal i'ch dimensiynau wal a gyflenwir gennych, gyda'r map wedi'i gyfansoddi'n ofalus i weddu i gyfrannau eich gofod.

Os oes rhwystrau ar eich wal fel drysau, ffenestri, rheiddiaduron, llefydd tân, cilfachau neu ddodrefn adeiledig, rhowch wybod i ni wrth archebu. Byddwn yn ymgorffori'r rhain yn eich prawf gwaith celf fel y gallwch weld yn union sut y bydd y papur wal gorffenedig yn edrych ar ôl ei osod.

Yn y modd hwn, byddwch yn gallu gwirio nad yw nodweddion pwysig o'r map yn cael eu colli y tu ôl i osodiadau parhaol cyn i'r papur wal fynd i'w argraffu.

Sut ydw i'n gosod y papur wal?

Mae pob archeb yn cael ei gyflenwi fel paneli papur wal wedi'u rhifo, pob un yn 62 cm o led, gan wneud y gwaith gosod yn syml a sicrhau bod y map yn alinio'n gywir ar draws eich wal.

Cyflenwir y paneli yn y drefn hongian gywir, gan ganiatáu i'r dyluniad alinio'n ddi-dor o un panel i'r nesaf. Mae cod QR sydd wedi'i gynnwys gyda'ch archeb yn cysylltu â chyfarwyddiadau gosod manwl, gan wneud y broses mor syml â phosibl p'un a ydych yn ei osod eich hun neu'n defnyddio addurnwr proffesiynol.

Pa mor hir mae'n ei gymryd?

Fel arfer rydym yn anfon eich prawf dylunio cyntaf o fewn 1–2 ddiwrnod gwaith. Ar ôl i chi gymeradwyo'r gwaith celf, caiff eich papur wal ei gynhyrchu'n broffesiynol a'i anfon cyn gynted â phosibl.

Old London map

Pob Manylyn, i'w Weld yn Glir

Mae pob map yn cael ei adfer yn ofalus a’i baratoi’n benodol i’w argraffu ar raddfa fawr ac mewn cydraniad uchel. Mae llinellau mân, enwau lleoedd a manylion cywrain y map yn aros yn daclus ac yn glir, hyd yn oed ar y meintiau print mwyaf.

Angen Cyngor?

Mae pob cartref yn wahanol, ac mae pob map hanesyddol yn adrodd stori wahanol.

Os hoffech chi help i ddewis y lleoliad cywir, yr argraffiad hanesyddol, y gorffeniad lliw neu faint y wal, byddem wrth ein bodd yn eich tywys drwy'r opsiynau. P'un a ydych eisoes yn gwybod yn union beth rydych chi'n chwilio amdano neu dim ond archwilio syniadau, rydym bob amser yn hapus i drafod eich prosiect cyn i chi archebu.

Ein nod yw un syml: creu papur wal pwrpasol sy'n berffaith addas i'ch cartref a rhywbeth y byddwch yn falch o'i arddangos.

  • 5 stars: 8 (100%)
  • 4 stars: 0 (0%)
  • 3 stars: 0 (0%)
  • 2 stars: 0 (0%)
  • 1 star: 0 (0%)
F
Fran Kelly

Great communication from the seller and fast delivery. Great product and looks great in our porch!

E
Etsy customer

We love our map! Quality is fab and easy to put up. It’s now a talking point in our downstairs cloakroom! Slight issue with delivery but post office was at fault and Ifan was very helpful, it got resolved. Would definitely recommend.

S
Stella Buckle

Absolutely love it!, sooo happy with it

K
Katy Wilburn

The wallpaper is stunning, it looks amazing in my bathroom and it's a real talking point. The communication throughout was great, making changes to the map position to fit in key places. Would definitely recommend.

L
Loraine

Supplier was happy to communicate and tweak the boundaries of map to my preferences. Wallpaper arrived quicker than expected and had comprehensive hanging instructions. Very pleased indeed with finished result.

c
corinne Jones

From the moment I ordered until receipt, the customer service was excellent. I love the map it will look excellent on my walls. It arrived quickly and was very well packaged.
I would 100% recommend the seller and product

M
Michelle Clewley

Fabulous : this will be a great unique feature for our cottage

J
James Casey

🌟🌟HIGHLY RECOMMEND🌟🌟
Brilliant customer service, replied to every message within a reasonable time. Really helped us with creating what we wanted and made sure we had all the info we needed to make our decision.
He made sure it was delivered before we needed it as well.
Great product!
Great Price!
Great Service!
Thank you 👏🏼👏🏼