Amdanaf
Wedi gwirioni ar fapiau
Ifan Emyr ydw i, dylunydd graffeg proffesiynol o Ogledd Cymru a sylfaenydd Ifan Emyr Map Art.
Dw i'n caru mapiau. Maen nhw’n fwy na ffordd o gynllunio taith: maen nhw’n cofnodi lleoedd a’u straeon mewn manylder hyfryd. Drwyddyn nhw, gallwn weld sut mae trefi, dinasoedd a thirweddau wedi newid, a meddwl am y cysylltiadau personol sydd gennym â lleoedd arbennig.
Y diddordeb hwnnw a’m hysbrydolodd i droi mapiau hanesyddol yn gelf unigryw ar gyfer cartrefi a mannau busnes.
Y dechrau
Sefydlais Ifan Emyr Map Art yn 2017, gan ddod â’m cariad at fapiau ynghyd â dros ddegawd o brofiad proffesiynol mewn dylunio graffeg.
Dechreuais gyda chasgliad bach o brintiau map, a’u harddangos yn fy ffair grefftau gyntaf yn y pentref lleol. Mae’r busnes wedi tyfu’n raddol ers hynny, ond mae’r syniad wrth ei wraidd yr un fath o hyd: dathlu lleoedd sy’n golygu rhywbeth i ni drwy harddwch mapiau.
Heddiw, mae’r casgliad yn cynnwys printiau mapiau hanesyddol, dyluniadau pwrpasol a phapur wal map wedi’i gynllunio i fesuriadau dewisiol cwsmeriaid ledled y DU a thu hwnt.
Delwedd: Ffair grefft gyntaf, 2017
O brintiau map i bapur wal
Yn 2021, creais fy mhapur wal map cyntaf. Roedd yn ffordd hollol newydd o fwynhau mapiau hanesyddol.
Pan gaiff map ei ehangu i orchuddio wal, daw manylion bach i’r amlwg: ffyrdd, adeiladau, ffiniau caeau a’r dirwedd o’u cwmpas. Mae’r map yn dod yn ganolbwynt i’r ystafell ac yn gofnod hynod ddiddorol o’r lle.
Mae pob papur wal yn cael ei wneud i fesur, ac mae pob dyluniad pwrpasol yn cael ei baratoi’n ofalus i weddu i faint a nodweddion wal y cwsmer.
Delwedd: Papur wal map cyntaf, 2021
Papur Wal Map
Wedi'i wreiddio yng Nghymru
Mae Cymru’n rhan bwysig o bwy ydw i ac o’r gwaith dw i’n ei wneud. Yma yng Ngogledd Cymru, dw i wedi fy amgylchynu gan leoedd sydd â’u hanes, eu tirwedd a’u cymunedau eu hunain. Mae mapiau’n cadw cofnod manwl o’r straeon hynny.
O Gaernarfon a mynyddoedd Eryri i drefi, pentrefi ac arfordiroedd ledled y wlad, mae mapiau Cymru’n rhan arbennig o’r casgliad i mi.
Gall map hanesyddol ddangos lle cyfarwydd mewn ffordd hollol newydd. Gall hefyd fod yn ddarn o gelf personol iawn, gan gysylltu rhywun â’i dref enedigol, cartref y teulu, man geni neu dirwedd sy’n llawn atgofion.
Delwedd: Print map hanesyddol o Gaernarfon
Printiau Mapiau Hanesyddol
Wedi'i baratoi'n ofalus, wedi'i wneud i chi
Dw i’n dod o hyd i bob map, yn ei adfer ac yn ei baratoi i’w atgynhyrchu gan ddefnyddio technegau dylunio proffesiynol. Fy nod yw cadw manylion a chymeriad y map gwreiddiol, a sicrhau bod pob dyluniad yn edrych ar ei orau fel print celf gain neu bapur wal mawr.
Yn ogystal ag adfer mapiau hanesyddol, dw i’n creu gorffeniadau eraill, gan gynnwys dyluniadau glasbrint beiddgar. Gall cwsmeriaid ddewis lleoliad, lliw ac arddull sy’n gweddu i’w stori ac i’w gofod. Byddan nhw’n cael gweld a chymeradwyo drafft cyn i’r gwaith gael ei gynhyrchu.
Mae pob darn yn cael ei baratoi gyda gofal a’i argraffu yn ôl yr archeb ar ddeunyddiau o ansawdd uchel. Dw i eisiau creu celf map sy’n drawiadol, sydd wedi’i gwneud yn ofalus ac sy’n ddigon personol i’w mwynhau am flynyddoedd.
Delwedd: Papur wal map glasbrint
Angen Cyngor?
Mae pob cartref yn wahanol, ac mae gan bob map hanesyddol ei stori ei hun.
Os hoffech help i ddewis lleoliad, fersiwn hanesyddol, arddull neu faint, byddwn yn falch o drafod yr opsiynau gyda chi. P’un a ydych chi’n gwybod yn union beth rydych chi ei eisiau neu’n dechrau hel syniadau, mae croeso i chi gysylltu cyn archebu.
Ein nod yw creu print neu bapur wal pwrpasol sy’n gweddu’n berffaith i’ch cartref ac y byddwch yn falch o’i arddangos.